Mae Cynllunio Treth yn wasanaeth pwysig y gallwn gynnig i’n cwsmeriaid.
Mae ein cynllunio treth yn cwmpasu nifer o feysydd gan gynnwys;
> Treth Etifeddu a chynllunio ystadau
> Cynllunio treth Enillion Cyfalaf
> Cynllunio Olyniaeth ac Ymadael Busnes
> Echdynnu elw’n effeithlon o endidau corfforaethol
Gall cynllunio effeithiol, trwy ei wneud yn amserol, olygu eich bod yn trosglwyddo y swm mwyaf posibl i’ch cymar gan dawelu gofidiau am enillion yr ydych wedi gweithio yn galed amdano ac sydd eisioes wedi ei drethu, yn cael ei drosglwyddo i Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM).
Gyda chyflwyno a gweithredu ‘Gwneud Treth yn Ddigidol’, mae cynllunio treth incwm diwedd y flwyddyn bellach wedi dod yn broses llawer haws a chyflymach a ddylai olygu y byddwch yn gallu amcangyfrif yn gywir eich rhwymedigaeth treth incwm cyn diwedd y flwyddyn, ac felly cynllunio unrhyw wariant busnes yn unol â hynny.
Rydym wedi canfod y gall hyd yn oed strategaeth dreth syml olygu arbedion sylweddol i unigolion a busnesau.