Un o ffactorau allweddol busnes llwyddiannus ydy nod clir ynghyd â chynllun o sut y gellir ei gyflawni. Gallwn gynorthwyo busnesau i gynhyrchu cynllun busnes a chan ddefnyddio rhagolygon llif arian yngyd â gwybodaeth am gyllidebu, gallwn eich cynorthwyo i lunio strategaeth fesuradwy i weithredu eich cynllun.
Gallwn eich cynorthwyo i adnabod unrhyw gyllideb y gall fod ei angen, gwneud y defnydd mwyaf posibl o’r adnoddau sydd ar gael ac i ragweld oblygiadau ariannol cywaith.
Mae gennym hefyd brofiad o ddelio â banciau lleol a chael y wybodaeth sydd ei angen arnynt er mwyn ystyried cyllid newydd, sy’n aml yn gofyn am gynllun busnes.
Os gallwn ni fod o gymorth i’ch cynorthwyo gyda’ch cynllun busnes, mae croeso i chi gysylltu â ni.