Gall Cyfrifwyr Aeron gynghori ar bwrcasu’r cynnyrch cywir ar gyfer eich busnes chi, gan ddefnyddio’r wybodaeth sydd gennym ynghylch gwahanol systemau cyfrifiadurol, i’ch cynorthwyo i reoli’ch busnes yn electronig.
Gallwn osod ac addasu meddalwedd cadw llyfrau fel SAGE, Xero, Free Agent, Quickbooks a Capium, gan sicrhau eu bod yn cael eu gosod i brosesu gwybodaeth yn effeithlon tra’n sicrhau eu bod yn darparu’r wybodaeth berthnasol i chi.
Gallwn hefyd eich cynorthwyo i gyflymu tasgau cofnodi o ddydd i ddydd trwy integreiddio technoleg OCR. Gall rhaglenni megis Receipt Bank, Auto Entry a Hubdoc awtomeiddio mewngofnodi llawer o’r data ac felly arbed amser ac arian i chi.
Mae hefyd gennym brofiad helaeth mewn sefydlu dadansoddiadau adrannol ac hefyd brofiad mewn dylunio siartiau pwrpasol o gyfrifon sy’n galluogi ein cwsmeriaid i gael dadansoddiad manwl o bob agwedd ar eu busnes.