Polisi Preifatrwydd

Mae Cyfrifwyr Aeron Accountants yn parchu preifatrwydd ymwelwyr i’w gwefan, yn enwedig hawliau ymwelwyr parthed prosesu data personol yn awtomatig. Er lles tryloywder llawn i’n cwsmeriaid, rydym wedi llunio ac yn gweithredu polisi o’r gweithrediadau prosesu hyn, eu pwrpas a’r posibiliadau i’r rheiny sy’n gysylltiedig i weithredu eu hawliau. Dylech fod yn ymwybodol nad yw Cyfrifwyr Aeron Accountants yn gyfrifol am bolisi preifatrwydd safleoedd eraill y gellir cael mynediad iddynt trwy ddolen ar ein gwefan. Rydym yn argymell eich bod yn ymweld â’r datganiad preifatrwydd ac ymwadiad y wefan arall wrth fynd at wefannau trydydd parti trwy ein gwefan.

Ar ein gwefan, rydym yn defnyddio cwcis a systemau olrhain eraill. Drwy barhau i ymweld â’n gwefan, rydych chi’n derbyn y telerau a’r amodau canlynol ac rydych chi’n cytuno â’n cwcis.

Efallai y byddwn yn diweddaru’r polisi preifatrwydd hwn o bryd i’w gilydd yn ôl yr angen. Fersiwn y polisi preifatrwydd sydd ar gael ar y wefan yw’r unig fersiwn sy’n berthnasol am hyd eich ymweliad â’r wefan, nes bod fersiwn newydd yn disodli’r fersiwn gyfredol.

Mae ein polisi preifatrwydd wedi ei lunio er mwyn cydymffurfio â chyfraith pob gwlad neu awdurdodaeth gyfreithiol y bwriadwn wneud busnes ynddo. Yn ein prosesu, rydym yn cydymffurfio â’r gofynion a bennwyd gan y Rheoliad Gwarchod Data Cyffredinol (GDPR).

Diweddarwyd y datganiad preifatrwydd hwn ddiwethaf ar 14 Rhagfyr 2018.

Defnyddio data personol

Mae data personol yn golygu: yr holl wybodaeth am berson naturiol dynodedig neu adnabyddadwy; person adnabyddadwy naturiol y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu yn anuniongyrchol, yn benodol trwy gyfrwng dynodydd megis enw, rhif adnabod, lleoliad, dynodydd ar-lein neu un neu fwy o elfennau sy’n nodweddion yr hunaniaeth corfforol, ffisiolegol, genetig, seicolegol , economaidd, diwylliannol neu gymdeithasol. Mae’n cynnwys gwybodaeth a allai eich adnabod chi (“gwybodaeth bersonol”) a gwybodaeth na allent. Yng nghyd-destun y gyfraith a’r hysbysiad hwn, mae “proses” yn golygu casglu, storio, trosglwyddo, defnyddio neu weithredu fel arall ar y wybodaeth.

Drwy ddefnyddio ein gwasanaeth, byddwch chi’n gadael rhywfaint o wybodaeth gyda ni. Gallai hyn fod yn ddata personol. Rydym ddim ond yn cadw a defnyddio’r data personol a ddarperir gennych chi, o fewn fframwaith y gwasanaeth yr ydych yn ei ofyn, neu pan fo’n glir eu bod yn cael eu darparu i ni i’w brosesu.

Defnyddiwn y data canlynol at y dibenion a grybwyllir yn y datganiad preifatrwydd hwn:

  • Enw, cyfeiriad a chôd post
  • Rhif ffôn
  • Cyfeiriad ebost

Hysbyseb

Gallwn, yn ogystal â’r wybodaeth ar ein gwefan, roi gwybod i chi am ein cynhyrchion a’n gwasanaethau (newydd) drwy;

  • E-bost
  • Ffôn
  • Post uniongyrchol (post)
  • Cyfryngau cymdeithasol

Ffurflen Gyswllt

Os ydych chi’n llenwi’r ffurflen gyswllt ar y wefan, neu anfon e-bost atom, bydd y data a anfonir atom yn cael ei gadw cyhyd â bod natur y manylion ar y ffurflen neu’r cynnwys yn eich e-bost yn ofynnol i ni gyflawni eich cais.

Cyhoeddi

Nid ydym yn cyhoeddi eich data oni bai bod caniatâd penodol wedi’i roi.

Trydydd parti

Nid ydym yn darparu’ch data personol i drydydd parti heb eich caniatâd, oni bai ein bod yn gorfod gwneud hynny yn seiliedig ar y gyfraith, penderfyniad llys. Os yn ystod y cyfnod o weithredu fel eich asiant i chi.

Diogelwch

Rydym yn cymryd mesurau diogelwch i gyfyngu ar gamdriniaeth o ddata personol a mynediad anawdurdodedig iddo. Rydym yn cadw ystadegau ar ein gwefan, ond mae hyn bob amser yn cael ei wneud yn ddienw.

Cyfnod cadw

Nid yw Cyfrifwyr Aeron Accountants yn storio’ch data yn hirach nag sy’n angenrheidiol at y dibenion y cawsant eu casglu a’u prosesu.

Cwcis

Ffeil testun bach yw cwci sydd wedi’i ysgrifennu i’ch disg galed sy’n cynnwys gwybodaeth amdanoch chi. Nid yw cwcis yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol am ddefnyddwyr.

Rydym yn defnyddio cwcis i bersonoli’ch profiad o’r Wefan. Mae’r rhan fwyaf o borwyr gwe yn eich galluogi i reoli sut y caiff cwcis eu derbyn trwy addasu eich gosodiadau porwyr gwe. Os ydych chi’n gosod eich porwr i wrthod y cwci, byddwch chi’n dal i allu defnyddio’r Wefan.

Gall y gwasanaethau a ddarperir trwy’r wefan, megis cynnwys fideo neu gynnwys mewnosodedig gan ddarparwyr allanol hefyd osod cwcis ar eich peiriant (cyfrifiadur).

Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon, tybir eich bod yn derbyn y telerau a’r amodau hyn a chaniatáu i’r wefan roi cwcis ar eich peiriant.

Firysau

Nid ydym yn gwarantu y bydd ein gwefan yn ddiogel neu’n rhydd rhag chwilys neu firysau. Chi sy’n gyfrifol am ffurfweddu eich technoleg gwybodaeth, rhaglenni cyfrifiadurol a’r platfform er mwyn cael mynediad i’n gwefan. Dylech ddefnyddio’ch meddalwedd amddiffyn firws eich hun.

Rhaid i chi beidio â chamddefnyddio ein gwefan trwy gyflwyno firysau, trojans, mwydod, bomiau rhesymeg neu ddeunydd arall sy’n faleisus neu’n niweidiol yn dechnolegol. Ni ddylech geisio cael mynediad anawdurdodedig i’n gwefan, y gweinydd y mae ein gwefan yn cael ei storio arno neu unrhyw weinyddwr, cyfrifiadur neu gronfa ddata sy’n gysylltiedig â’n gwefan. Ni ddylech ymosod ar ein gwefan trwy ymosodiad gwadu-gwasanaeth nac ymosodiad dosbarthu gwrthod-gwasanaeth. Trwy dorri’r ddarpariaeth hon, byddech yn cyflawni trosedd dan Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990.

Byddwn yn adrodd ar unrhyw dorri cytundeb o’r fath, i’r awdurdodau gorfodi cyfraith perthnasol a byddwn yn cydweithredu â’r awdurdodau hynny trwy ddatgelu’ch hunaniaeth iddynt. Mewn achos o dorri cytundeb o’r fath, bydd eich hawl i ddefnyddio ein gwefan yn dod i ben ar unwaith.

Newidiadau i’r datganiad preifatrwydd hwn

Rydym yn cadw’r hawl i wneud newidiadau i’r datganiad preifatrwydd hwn. Fe’ch cynghorir i ymweld â’r datganiad preifatrwydd hwn yn rheolaidd fel eich bod yn ymwybodol o’r newidiadau hyn.

Eich hawliau ynglŷn â’ch data

Yn unol ag Erthygl 13 paragraff 2 is b GDPR mae gan bawb yr hawl i archwilio a chywiro neu ddileu ei ddata personol neu gyfyngu ar y prosesu sy’n ymwneud ag ef, yn ogystal â’r hawl i wrthwynebu’r prosesu a’r hawl i gludo data. Gallwch ymarfer yr hawliau hyn trwy gysylltu â ni drwy’r manylion isod.

Gweld a newid eich data

Os oes gennych gwestiynau ynghylch ein datganiad preifatrwydd neu gwestiynau ynghylch mynediad a newidiadau i (neu ddileu) eich data personol, gallwch gysylltu â ni ar unrhyw adeg, gweler y wybodaeth i gysylltu gyda ni isod.

Manylion cyswllt:

Dyfrig Davies
9 Clos Pencarreg
Aberaeron
Ceredigion
SA46 0DX

01545 238 416
post@aeron.cymru

Y gyfraith berthnasol

Mae cyfraith Cymru a Lloegr yn berthnasol i’r polisi hwn.