Amdanom Ni

Mae Cyfrifwyr Aeron wedi’i leoli yn Aberaeron, Gorllewin Cymru. Sefydlwyd y cwmni gan Dyfrig Davies yn 2016.

Rydym yn gwmni sydd yn manteisio ar ddatblygiadau mewn technoleg gyfrifyddu digidol i helpu ein cleientiaid i leihau baich gweinyddu busnes o ddydd i ddydd tra hefyd yn darparu gwybodaeth fusnes ddefnyddiol, ystyrlon a chyfredol.

Mae bod yn dîm bach yn ein galluogi i fod yn hyblyg ac i ymateb yn gyflym i anghenion ein cleientiaid yn ogystal ag i ddatblygiadau yn ‘Gwneud Treth Digidol‘ a datblygiadau technolegol parhaus.

Mae Cyfrifwyr Aeron wedi’i gofrestri gyda’r Gymdeithas Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA).

Gall Cyfrifwyr Aeron gynnig gwasanaeth gwerthfawr, yn Gymraeg neu yn Saesneg i’n cwsmeriaid ar draws yr holl ofynion cyfrifyddu.

Dyfrig Davies

Cefais fy ngheni a fy magu ar fferm gymysg yn Nhalgarreg, Ceredigion. Astudiais Lefel A cyn mynd ymlaen i raddio mewn Cyfrifon a Chyllid ym Mhrifysgol Morgannwg ac yna dychwelyd i weithio i gwmni cyfrifwyr lleol yn 2005.

Yn sgíl gweithio yn y diwydiant ers dros bedair mlynedd ar ddeg, rwyf wedi llunio portffolio eang o brofiadau, gan ddelio â phob agwedd ar gyfrifeg, archwilio a rheoli busnes ar gyfer ystod eang ac amrywiol o gleientiaid.

Mae ehangder y profiad hwn yn sicrhau fy mod yn llwyr ddeall y gofynion a’r heriau sy’n wynebu busnesau, yn enwedig yng nghefn gwlad Gorllewin Cymru.

Rwy’n aelod o’r Gymdeithas Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA) ac mi ddes yn Gymrawd Cymdeithas Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig yn 2016.

Rwy’n mwynhau pob math o chwaraeon, boed fel gwyliwr neu yn cymryd rhan fy hun, ac rwy’ wedi chwarae rygbi a phêl-droed i dimau lleol.

Eleri Davies

Fe wnaeth Eleri Davies ymuno â’r practis yn 2021. Cyn hynny bu’n gweithio i bractis cyfrifeg yng Ngorllewin Cymru ac ymunodd â hi ar ôl gadael y Brifysgol lle bu’n astudio Mathemateg a Cherddoriaeth.

Mae Eleri wedi bod yn gweithio yn y proffesiwn ers 2013 a chymhwysodd fel cyfrifydd siartredig gyda Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr (ICAEW) yn 2019. Mae ganddi brofiad o ymdrin â chyfrifon a materion treth i gwmnïau, partneriaethau a masnachau unigol. Mae hi hefyd wedi gwneud gwaith archwilio yn y gorffennol ac mae ganddi brofiad mewn meysydd treth eraill fel TAW a TWE.

Mae gan Eleri llawer o brofiad yn defnyddio meddalwedd cyfrifeg amrywiol fel QuickBooks, FreeAgent a Capium ac mae wedi’i hardystio gan gynghorydd Sage a Xero.

Mae hi’n rhugl yn y Gymraeg ac fe’i magwyd ar fferm tu allan i Llanbedr Pont Steffan. Cyn dod yn fam am y tro cyntaf yn ystod y pandemig COVID bu’n chwarae’r soddgrwth mewn cerddorfeydd amrywiol yng Ngorllewin Cymru a hi oedd trysorydd Cerddorfa Siambr Llambed.

Emma Carmichael

Magwyd Emma yn nhref fechan Llanfair-ym-Muallt ym Mhowys gan fynychu ysgolion cynradd ac uwchradd yno.
Mae gan Emma lefel A mewn Ffrangeg a Daearyddiaeth ac aeth ymlaen i astudio Astudiaethau Busnes gyda Ffrangeg a Sbaeneg ym Mhrifysgol Morgannwg.

Mae Emma wedi bod yn gweithio ym maes Cyllid ers dros 20 mlynedd ac mae ganddi brofiad o weithio mewn practis cyfrifeg ac yn y sector diwydiant gweithgynhyrchu. Mae’r profiad hwn yn cynnwys cadw cyfrifon, paratoi a chyflwyno Ffurflenni TAW, drafftio cyfrifon, paratoi a chyflwyno Ffurflenni Treth Personol a Phartneriaeth a phrosesu’r gyflogres.

Mae Emma yn aelod o Gymdeithas y Technegwyr Cyfrifyddu (AAT). Enillodd ei Thystysgrif Cyfrifyddu yn 2017 ac ar ddiwedd 2020 daeth yn geidwad llyfrau AAT cymwys ar ôl cwblhau ei Thystysgrif Cadw Cyfrifon Uwch.

Yn ei hamser hamdden, mae Emma yn mwynhau celfyddydau a diwylliant, garddio, mynd â’r ci am dro a bod ar lan y môr.

Er nad yw Emma yn siarad Cymraeg yn rhugl, cwblhaodd ddau gymhwyster Cymraeg i Oedolion yn 2014 a 2016 felly mae ganddi ddealltwriaeth sylfaenol o’r iaith.

Ceinwen James

Dechreuodd Ceinwen weithio i Gyfrifwyr Aeron ym mis Ebrill 2023.